Casgliad Salisbury: Prifysgol Caerdydd
Bues i mewn digwyddiad yn archifau arbennig Prifysgol Caerdydd i weld a chlywed am rai o’r trysorau yng Nghasgliad Salisbury.
Mae Casgliad Salisbury yn un o gasgliadau gorau’r byd o lyfrau Cymraeg. Fe’i casglwyd ynghyd gan y llyfrbryf o Sir y Fflint, Enoch Salisbury, a daeth y casgliad i Brifysgol Caerdydd yn 1886 ar drên arbennig, gan ddod yn gnewyllyn llyfrgell y Brifysgol.
Siaradodd yr artist Ifor Davies am ddylanwad Beibl 1620. Mae ei waith yn y mudiad Dinistr mewn Celfyddyd wedi cael cydnabyddiaeth fyd-eang, ac ar hyn o bryd mae Ifor yn gweithio ar lun i nodi cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg.
Cafwyd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o’r Beibl gan William Morgan yn 1588, a mireiniwyd y testun a’i ailgyflwyno ym Meibl 1620 Richard Parry. Daeth Beibl 1620 yn un o gonglfeini’r Gymraeg a dyma oedd prif destun y Beibl Cymraeg hyd at yr 20fed ganrif.
Siaradodd Dr Huw Williams o Brifysgol Caerdydd am lyfr gan yr athronydd, yr ysgrifennwr gwleidyddol, yr anghydffurfiwr a’r mathemategydd Richard Price. Siaradodd Huw Williams, Deon y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, am ddylanwad Richard Price ar sefydlu cyfansoddiad yr Unol Daleithiau a pha mor berthnasol a defnyddiol yw gwaith Price hyd heddiw.
Gwirionais ar ddod ar draws llyfr o farddoniaeth yng Nghasgliad Salisbury a fu un tro ym meddiant Iolo Morgannwg. Mae Morgannwg yn ddylanwad llenyddol a diwylliannol aruthrol yn hanes diwylliant Cymru; sefydlodd yr Eisteddfod fodern, ond roedd hefyd yn weithredwr gwleidyddol, anghydffurfiol a llenyddol a’i waith yn cynnwys ffugiadau llwyddiannus o farddoniaeth ganoloesol Gymraeg. Yn y casgliad roedd barddoniaeth a argraffwyd gan gyfaill i Iolo Morgannwg, gyda sylwadau a nodiadau wedi’u hysgrifennu gan Iolo Morgannwg mewn pensil yn yr ymylon.
Dim ond dau o drysorau Casgliad Salisbury yw’r rhain. Roeddwn yn ddiolchgar i’r tywyswyr a’m helpodd ar yr ymweliad cyntaf hwn. Mae’r llyfrgell hon yn gasgliad o bwys rhyngwladol, ac yn agored i’r cyhoedd drwy apwyntiad.