Croeso i Tirweddau Ffydd

Helo!    

Croeso i Tirweddau Ffydd. Prosiect wedi’i leoli yn Ne Cymru yw hwn i fwrw golau ar hanesion, chwedlau, llefydd a phobl o ffydd o bob traddodiad.

Mae Cymru yn wlad fendigedig ac mae’n un o nifer fechan iawn o wledydd yn y byd y mae gan ei Llywodraeth Gynllun Gweithredu ar Dwristiaeth Cred. Wedi’i ysgrifennu yn 2013, mae Cyllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Dwristiaeth Cred yn dathlu’r hyn y mae gan ein treftadaeth anhygoel i’w gynnig, treftadaeth sy’n gallu cystadlu gydag unrhyw fan arall yn y byd. Mae’r cynllun yn annog ymwelwyr a chymunedau lleol fel ei gilydd i archwilio a mwynhau diwylliant Cymru.

Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn teithio o amgylch De Cymru, yn gwahodd cymunedau, sefydliadau, ysgolion, unigolion… mewn difri, unrhyw un o gwbl!!… i ymuno â ni mewn helfa drysor i ddarganfod ac archwilio tirwedd ffydd yn Ne Cymru.

Mewn tua blwyddyn, byddwn yn cyhoeddi gwefan gyda llawer o fanylion am y pethau rydyn ni’n eu darganfod. Yn y cyfamser, gallwch gysylltu â ni ym mhrosiect Tirweddau Ffydd, a chymryd rhan, a/neu ddilyn yr helfa drysor drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Byddaf yn cyhoeddi blogiau personol yn rheolaidd am y pethau byddwn ni’n eu darganfod. Rwy’n siarad dipyn bach o Gymraeg, ond alla i ddim ysgrifennu rhyw lawer yn Gymraeg, felly Saesneg fydd y blogiau gan fwyaf. Ond rwy’n edrych ymlaen i siarad gyda chi, ac i gwrdd â chi yn nhirwedd ffydd…

Cofion gorau

Richard

‹ Back to Blog

Follow us on instagram