Cwestiynau Cyffredin
Pwy sy’n gwneud i’r prosiect yma ddigwydd?
Mae’r prosiect yn cael ei redeg gan y fenter hwyluso diwylliannol Coleridge in Wales Cyf a gafodd ei sefydlu gan y canwr Richard Parry. Mae ganddyn nhw brofiad eang o drefnu digwyddiadau a phrosiectau dan arweiniad y gymuned gan gynnwys Gŵyl 80 diwrnod Coleridge yng Nghymru yn 2016, a chynhyrchu sioe agoriadol Carnifal y Môr ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Chaerdydd yn 2018.
Mae Coleridge in Wales yn gweithio mewn partneriaeth ag Esgobaeth Llandaf yn Ne Cymru i wahodd pob cymuned i ymuno mewn darganfod y tirweddau ffydd.
Sut mae’r prosiect yn cael ei ariannu?
Mae’r prosiect yma’n cael ei gefnogi gan Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygiad Gwledig Llywodraeth Cymru trwy gyfrwng Croeso Cymru yn ogystal â grant oddi wrth yr Allchurches Trust.
Beth fydd yn digwydd?
Rydyn ni’n eich gwahodd chi i gymryd rhan mewn helfa drysor gymunedol i ddatguddio a dathlu’r tirweddau ffydd, ac yn 2021 byddwn ni’n lansio gwefan newydd ar gyfer ymwelwyr rhyngwladol a chymunedau lleol er mwyn i bawb gael fforio a darganfod y dreftadaeth anhygoel sydd o’n cwmpas.
Ai dim ond De Cymru sydd dan sylw?
Rydyn ni’n dechrau yma yn Ne Cymru, ac os ydych chi’n byw yn y De bydden ni wrth ein bodd i chi ddilyn y prosiect a chymryd rhan. Ond mae gan weddill Cymru drysorau bendigedig a hanfodol bwysig yn y dirwedd ffydd hefyd a’n gobaith yw cynnal mwy o helfeydd trysor cymunedol cyn bo hir, yng Nghymru ac o amgylch y byd
Oes rhaid i ni dalu i gymryd rhan?
Nac oes. Nid yw’n costio dim i gymryd rhan. Bydd y rhan fwyaf o ddigwyddiadau, teithiau cerdded, sesiynau galw heibio, a fforiadau’n rhad ac am ddim. Efallai y bydd cyngherddau achlysurol sydd â thaliadau mynediad bach am docynnau ond bydd y rhain yn gost-isel ac yn hwylus. Y syniad yw cynnwys cynifer o bobl â phosibl, ac nid oes unrhyw dâl am y mwyafrif o ddigwyddiadau a gweithgareddau.
Gawn ni awgrymu ein digwyddiad ni?
Cewch! Bydden ni wrth ein bodd i gynnal rhyw fath o ddigwyddiad, taith gerdded, cyngerdd, cyfarfod neu weithgaredd sy’n dathlu’ch tirwedd ffydd leol chi.
Byddwn ni’n dod atoch chi, yn dweud wrthych chi am y prosiect, yn gwrando ac yn dysgu a’ch helpu chi i drosi’ch tirwedd leol yn helfa drysor, er mwyn i bobl eraill gael dod i ble rydych chi’n byw a’i darganfod hi.
Sut mae cysylltu â chi?
Ysgrifennwch aton ni drwy’r ffurflen gysylltu yma neu anfonwch e-bost aton ni yn [email protected]
Ydy unrhyw un yn cael dod i ddigwyddiadau?
Ydy, dyna’r syniad cyffredinol. Mae croeso i bawb ar yr helfa drysor!